SL(6)180 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (“Rheoliadau 2009”). Mae Rheoliadau 2009 yn darparu’r sylfaen ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr a wnaed gan Weinidogion Cymru ac maent yn cynnwys darpariaeth i godi llog ar fenthyciadau myfyrwyr.

Mae benthycwyr yn dechrau ad-dalu eu benthyciad myfyrwyr unwaith y bydd eu henillion yn uwch na throthwy penodol. Mae benthycwyr Cynllun 2 (y rhai sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru neu fyfyriwr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru a ddechreuodd gwrs israddedig ar neu ar ôl 1 Medi 2012) yn ad-dalu 9 y cant o'u henillion sy'n uwch na'r trothwy hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2009 i:

·         rewi trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 am flwyddyn (ar ei lefel bresennol o £27,295) a'r trothwyon cyfradd llog ar gyfer benthycwyr o Gymru; a

 

·         chynnal y bandiau trothwy ad-dalu a bandiau trothwy cyfradd llog is ac uwch ar y lefelau presennol ar gyfer benthycwyr sy'n preswylio dramor.

Y weithdrefn

Negyddol Cyfansawdd

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. Gall Senedd y Deyrnas Unedig hefyd ddirymu'r Rheoliadau, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i Senedd y Deyrnas Unedig.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, sy’n golygu eu bod: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y DU.

O ganlyniad, gwnaed y Rheoliadau hyn yn Saesneg yn unig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn darparu:

“Given the composite nature of the 2009 Regulations and that no routine Parliamentary processes exist by which to lay bilingual regulations before Parliament, these Regulations will be made in English only”.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Mawrth 2022